Trustee | Ymddiriedolwr

Remote
Unpaid role, expenses paid
Voluntary
Job description

Citrus Arts, a circus and outdoor arts organisation in Pontypridd in the South Wales valleys, is looking for new trustees to join our small yet mighty board.

 

Who are Citrus?

 

We’re an arts charity with a vision of a flourishing creative community rooted in the ethos of the travelling circus 

 

Citrus’ mission is to use the hands-on skills of circus and outdoor arts life to nurture citizenship and kindness in our neighbourhood, and to ignite creativity, connecting our community to self, to each other and to the land through hosting spectacular shared experiences.

 

What do we do?

 

Paid training in outdoor arts technical skills for young people not in education, employment or training (ArtWorkers scheme) see short film

Outdoor arts and circus installations with and in our community see Ty Unnos film

Circus classes for children and adults at our base at Hopkinstown Hall

Rage Rage | Oes Oes a rebellious cultural programme for people who left school before 1990

Creative community events eg NT Live screenings, gigs, performances and community days

 

 

Who are we looking for?

 

We are seeking new members to join our board and help us drive the company, ensuring that we work with determination and flair in everything we do.

 

We’re particularly interested in hearing from people who live in Hopkinstown or the local area, who are Welsh speakers and/ or who feel their lived experience is underrepresented in the arts or on charity boards.  We are also interested in hearing from folks with experience in environmental sustainability, safeguarding, marketing  or relationship building, staff management, data protection and/ or venue management. The most important thing, however, is that you are interested in the arts and have a desire and enthusiasm for helping our community and our young people to embrace creativitycitizenship and kindness.

 

A trustee is a person who takes care of the work of a charity, making sure it meets its charitable aims and carries out everything it does in a legal and professional way. Trustees have meetings every few months to check on, plan and discuss the work of the charity. Trustees do not get paid for being trustees, but they do get expenses for any travel etc.

 

Citrus’ board meetings are held around 4 times a year, usually on Zoom, and there are other Citrus creative events we love our board members to attend where possible. These can include screenings, gigs, performances, festival, workshops and much more. We aim to support our board with training and development needs as well as social opportunities. 

 

Currently, Citrus Arts has 4 trustees and we’re looking for 3 or 4 more. 

 

To apply, send us an application in any format you would like. You can send a CV if you have one with a covering letter, and audio file or a video. You can apply in English or Welsh. Currently, our board meetings happen in English with some Welsh, and we’re really keen to increase the amount of Welsh spoken. We’d also be happy to support BSL interpretation of meetings if required. 

If you would like to have an informal chat with one of our current board, or if you have any questions get in touch with our Executive Director Beth.

 

Deadline for applications: 31st July 2025 5pm

 

 

—-----

 

 

Mae Citrus Arts, corff syrcas a’r celfyddydau awyr agored ym Mhontypridd yng nghymoedd De Cymru, yn chwilio am ymddiredolwyr newydd i ymuno â’n bwrdd bychan ond grymus.

 

Pwy yw Citrus?

 

Elusen yn y celfyddydau ydym, a chennym weledigaeth o gymuned greadigol â’i gwreiddiau yn ethos y syrcas deithiol

 

Cenhadaeth Citrus yw defnyddio medrau ymarferol bywyd y syrcas a’r celfyddydau awyr agored i feithrin dinasyddiaeth dda a charedigrwydd yn ein cymdogaeth, ac i danio creadigedd, gyda chysylltu ein cymuned â ni’n hunain, â’n gilydd ac â’r tir drwy lywyddu profiadau trawiadol ar y cyd.

 

Beth wnawn ni?

 

Hyfforddiant tâl mewn medrau technegol yn y celfyddydau awyr agored i bobl ifanc sydd heb fod mewn addysg, gwaith na hyfforddiant (y cyllun Cywion Celf)

Mewnosodion celfyddydau awyr agored a syrcas gyda’n cymuned ac ynddi DOLEN Â TY UNNOS

Dosbarthiadau syrcas i blant ac oedolion yn ein canolfan yn Neuadd Trehopcyn

Rage Rage | Oes Oes sef rhaglen ddiwylliannol wrthryfelgar i bobl adawodd yr ysgol cyn 1990

Digwyddiadau cymunedol creadigol e.e. sgriniadau NT Live, gigs, perfformiadau a diwrnodiau cymuned

 

 

Am bwy rydym yn chwilio?

 

Rydym yn chwilio am aelodau newydd i ymuno â’n bwrdd a rhoi help llaw i ni yrru’r cwmni, gydag ymorol ein bod yn dal i fod yn gyfrifol ac yn gweithio’n benderfynol ac yn ddawnus ym mhopeth wnawn ni.

 

Mae gennym ddiddordeb yn arbennig mewn clywed gan bobl sy’n byw yn Nhrehopcyn neu’r cyffiniau, sy’n medru’r Gymraeg a/ neu sy’n teimlo bod profiad eu bywyd heb ei gynrychioli ddigon yn y celfyddydau neu ar fyrddau elusennau.  Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn clywed gan bobl a chanddyn nhw brofiad ym meysydd cynaliadwyedd yr amgylchedd, diogelu, marchnata neu feithrin perthynas, rheoli staff, diogelu data a/ neu reoli oedfannau. Fodd bynnag, y peth pwysicaf yw bod gennych ddiddordeb yn y celfyddydau ac awch a brwdfrydedd dros helpu ein cymuned a’n pobl ifanc i goleddu creadigedd, dinasyddiaeth a charedigrwydd.

 

Rhywun sy’n gofalu am waith elusen yw ymddiredolwr, yn ymorol ei bod yn cwrdd â’i hamcanionelusennol ac yn gwneud popeth a wna mewn modd cyfreithlon a phroffesiynol. Maeymddiredolwyr yn cwrdd bob ychydig fisoedd i fwrw golwg ar waith yr elusen, ei gynllunio a’i drafod. Chaiffymddiredolwyr mo’u talu am fod yn ymddiredolwyr, ond maent yn cael treuliau i ymorol am deithio etc.

 

Cynhelir cyfarfodydd o fwrdd Citrus tua phedair gwaith y flwyddyn, fel arfer ar Zoom, ac mae yna ddigwyddiadau creadigol eraill gan Citrus rydym wrth ein boddau o weld ein hymddiredolwyr yn mynd iddynt lle bo modd. Gallai’r rhain gynnwys gigs, perfformiadau, gŵyl, gweithdai a llawer at hynny. Mae’n amcan gennym gefnogi ein bwrdd o ran anghenion hyfforddiant a datblygu yn ogystal â chyfleoedd cymdeithasol.

 

Ar hyn o bryd mae gan Citrus Arts bedwar ymddiredolwr ac rydym yn chwilio am dri neu bedwar eto.

 

I wneud cais, anfonwch gais atom ym mha fformat bynnag y mynnwch chi. Gewch chi anfon CV, os oes gennych un, gyda llythyr eglurhaol, a ffeil sain neu fideo. Gewch chi wneud cais yn Gymraeg neu yn Saesneg.Ar hyn o bryd mae’r cyfarfodydd o’n bwrdd ar fynd yn Saesneg gyda pheth Cymraeg ac rydym yn awyddus iawn i glywed siarad mwy o Gymraeg. Byddem hefyd yn falch o gefnogi dehongli cyfarfodydd yn Iaith Arwyddion Prydain os oes gofyn.

Os carech gael sgwrs anffurfiol â rhywun sydd ar ein bwrdd ar hyn o bryd, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’n Cyfarwyddwr Gweithredol, Beth.

 

Dyddiad cau ceisiadau: 31 Gorffennaf 2025 5pm

Posted by
Citrus Arts View profile Organisation type Registered Charity
Posted on: Friday, 13 June 2025
Closing date: 31 July 2025 at 14:23
Tags: Fundraising, Business Development, Culture, Youth / Children, Community Fundraising, Events / Activities, Governance / Management