Solicitor / Senior Caseworker
Job Title: Solicitor / Senior Caseworker
Contract: Permanent. Full time or part time.
Responsible To: Legal Services Director
Salary: £30,000 - £35,000 per annum, dependant on qualifications and experience.
Location: An office base in Llandudno Junction, with a minimum of 3 days per week in the office and outreach work across Gwynedd and Ynys Mon.
About the role
North Wales Community Law is a charity established in 2023 that provides free legal advice to people in North Wales. We have a small team of caseworkers and we want to grow our team to enable us to support more people. This is an exciting opportunity for someone who wants to contribute to our vision to make sure that everyone in North Wales has access to the services and expertise they need to uphold their rights, fight inequality and challenge injustice.
We are looking for a solicitor or experienced caseworker to provide specialist housing or family law casework and advice under the supervision of our Legal Services Director. Based in our offices in Llandudno Junction, the role will involve regular travel to community based outreach clinics in North Wales, particularly Gwynedd and Ynys Mon.
We are particularly keen to hear from people with experience of relevant Welsh housing legislation and qualified solicitors with experience of legally aided civil litigation.
Other benefits include 35 days annual leave pro rata (including bank holidays), company pension and a commitment to investing in your professional development. Wellbeing is a core value of North Wales Community Law, and we recognise that we all thrive when our needs are met. All staff have access to discounts, free financial and legal advice, and health and wellbeing support through our comprehensive employee assistance programme.
About North Wales Community Law
Our vision is that everyone in North Wales has access to the services and expertise they need to uphold their rights, fight inequality and challenge injustice.
North Wales Community Law is an independent, not-for-profit legal charity committed to alleviating poverty, promoting equality, and helping everyone create a fair and just society. We do this by providing free, community based legal advice on issues affecting the day to day lives of people living in North Wales, using the law as a tool for social change, and sharing knowledge and skills across the legal and charity sectors.
Since opening our doors in 2023 we’ve provided expert legal advice to people in need who would otherwise have no access to justice. We’ve formed innovative collaborations with grassroots organisations supporting individuals, and with national charities challenging public bodies.
We have established a national profile across Wales and the UK, championing the legal rights of people in North Wales who are marginalised through poverty, discrimination, or disadvantage. A recently awarded legal aid contract for housing and Welsh Government funding put us in a strong position to challenge injustice and inequality for the communities we serve.
Duties
- To provide legal advice and casework assistance and give appropriate advice and support to clients, managing your own caseload and making applications for public funding as required.
- To liaise with landlords’ and other parties’ representatives, solicitors, other agencies and groups as required.
- To ensure that all casework, advice, and assistance complies with the requirements of the organisation’s processes, accreditations and, where publicly funded, complies with the requirements of the Legal Aid Agency.
- To collate evidence and work in partnership with other advice providers locally and regionally to influence the development of policy and legislation in relation to housing and domestic abuse.
- To undertake outreach work, including liaising with local communities, delivering talks and presentations to groups, and visiting community settings as appropriate. Work from various locations as reasonably required.
- To inform and participate in our public legal education work, to promote North Wales Community Law and a rights-respecting culture in north Wales.
- To actively engage with local community groups and organisations, bringing together our experience, skills and knowledge with that of others, sharing learning wherever possible.
- To prepare reports on your own work for the information of the Trustee Board, funders and other stakeholders, as required.
- To actively contribute to internal meetings, including cascading learning.
- To attend appropriate training courses and maintain readership of relevant publications to maintain and develop professional expertise.
- To support your own and team’s wellbeing and encourage a positive working environment.
- To travel to other locations for the purposes of giving advice, advocacy or for training.
- To carry out a share of administrative tasks including those detailed in the organisation’s Quality Manual.
- To carry out such other duties as may be required.
Person Specification
Essential
- Experience of delivering housing or family law advice and complex casework - advising and supporting clients through the legal system
- Ability to manage a busy caseload, working under pressure and meeting deadlines.
- Experience of legal aid processes, meeting financial targets and time recording requirements using case management systems.
- Good organisational, prioritising and time management skills.
- Experience of team and multi-agency working.
- Excellent listening, verbal and written communication skills including ability to communicate effectively with the organisation’s client group.
- Commitment to sharing learning, skills and knowledge.
- An understanding of and commitment to Equality, Diversity and Inclusion, and its relevance to legal advice.
- Strong commitment to North Wales Community Law’s vision, mission and values.
- Excellent IT skills.
Desirable
- Experience of practicing housing law in Wales
- Experience of delivering advice in other areas of social welfare law
- Experience of civil litigation, representing clients in court
- Sound understanding of the SRA Professional Conduct Rules, SQM standards and Solicitor’s Accounts Rules and ability to apply them as necessary
- Experience of legal aid billing (including certificated work), and an understanding of optimising legal aid income
- Ability in written and spoken Welsh
To Apply
The deadline for applications is 5pm on Friday 14th November 2025.
First interviews will be held online, with second stage interviews in person
Please email, with the job title in the subject line, attaching:
- An up to date CV
- A covering letter, describing how your skills, qualities and experience meet the requirements set out in the Job Description
- A completed Equality Monitoring Form
We recognise the value of diverse perspectives in our work and encourage applications from people of all backgrounds, communities, identities and experiences, including those with personal experience of the inequalities and injustices we seek to address. If you require any reasonable adjustments as part of the recruitment process, please let us know by emailing.
If you would like an informal discussion about the role please email.
We look forward to hearing from you.
Teitl Swydd: Cyfreithiwr Tai / Uwch Weithiwr Achos
Contract: Parhaol. Llawn-amser neu ran-amser.
Atebol i: Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol
Cyflog: £30,000 - £35,000 y flwyddyn, yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad.
Lleoliad: Mewn swyddfa yng Nghyffordd Llandudno, gydag o leiaf 3 diwrnod yr wythnos yn y swyddfa a gwaith allgymorth ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
Gwybodaeth am y swydd
Mae Cyfraith Gymunedol y Gogledd yn elusen a sefydlwyd yn 2023 i ddarparu cyngor cyfreithiol am ddim i bobl yng Ngogledd Cymru. Mae gennym dîm bach o weithwyr achos, ac rydym eisiau tyfu ein tîm er mwyn i ni allu cefnogi mwy o bobl. Dyma gyfle cyffrous i rywun sydd eisiau cyfrannu at ein gweledigaeth i wneud yn siŵr bod pawb yng Ngogledd Cymru yn gallu cael gafael ar y gwasanaethau a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gynnal eu hawliau, i frwydro yn erbyn anghydraddoldeb, ac i herio anghyfiawnder.
Rydym yn chwilio am gyfreithiwr neu weithiwr achos profiadol i ddarparu gwaith achos a chyngor arbenigol ynglŷn â thai neu gyfraith teulu dan oruchwyliaeth ein Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol. Bydd y swydd wedi'i lleoli yn ein swyddfeydd yng Nghyffordd Llandudno, a bydd angen teithio'n rheolaidd i glinigau allgymorth yn y gymuned yng Ngogledd Cymru, yn enwedig yng Ngwynedd ac Ynys Môn.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan bobl sydd â phrofiad o ddeddfwriaeth dai berthnasol yng Nghymru a chyfreithwyr cymwys sydd â phrofiad o ymgyfreitha sifil gyda chymorth cyfreithiol.
Mae buddion eraill yn cynnwys 35 diwrnod o wyliau blynyddol pro rata (gan gynnwys gwyliau banc), pensiwn cwmni ac ymrwymiad i fuddsoddi yn eich datblygiad proffesiynol. Mae llesiant yn un o werthoedd craidd Cyfraith Gymunedol y Gogledd, ac rydym yn cydnabod ein bod ni i gyd yn ffynnu pan fydd ein hanghenion yn cael eu diwallu. Mae’r holl staff yn gallu cael gafael ar ostyngiadau, cyngor ariannol a chyfreithiol am ddim, a chymorth iechyd a llesiant drwy ein rhaglen gynhwysfawr o gymorth i weithwyr.
Cefndir Cyfraith Gymunedol y Gogledd
Ein gweledigaeth yw bod gan bawb yng Ngogledd Cymru fynediad at y gwasanaethau a’r arbenigedd sydd eu hangen arnynt i gynnal eu hawliau, brwydro yn erbyn anghydraddoldeb a herio anghyfiawnder.
Mae Cyfraith Gymunedol y Gogledd yn elusen annibynnol, nid er elw, sy’n ymroddedig i drechu tlodi, hyrwyddo cydraddoldeb, a helpu pawb i greu cymdeithas sy’n fwy teg a chyfiawn. Rydym yn gwneud hyn drwy ddarparu cyngor cyfreithiol yn rhad ac am ddim yn y gymuned ynghylch materion sy’n effeithio ar fywydau bob dydd pobl sy’n byw yng Ngogledd Cymru, gan ddefnyddio'r gyfraith fel dull o greu newid cymdeithasol, a rhannu gwybodaeth a sgiliau ar draws y sectorau cyfreithiol ac elusennol.
Ers agor ein drysau yn 2023 rydym wedi darparu cyngor cyfreithiol arbenigol i bobl mewn angen na fyddai ganddynt fynediad at gyfiawnder fel arall. Rydym wedi ffurfio partneriaethau cydweithio arloesol gyda sefydliadau llawr gwlad sy’n cefnogi unigolion, a gydag elusennau cenedlaethol sy’n herio cyrff cyhoeddus.
Rydym wedi sefydlu proffil cenedlaethol ar draws Cymru a’r DU, gan hyrwyddo hawliau cyfreithiol pobl yng Ngogledd Cymru sydd ar ymylon cymdeithas oherwydd tlodi, gwahaniaethau, neu anfantais. Mae contract cymorth cyfreithiol a ddyfarnwyd yn ddiweddar ar gyfer tai a chyllid Llywodraeth Cymru yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i herio anghyfiawnder ac anghydraddoldeb ar gyfer y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Manyleb y Person
Hanfodol
- Profiad o ddarparu cyngor a gwaith achos ym maes tai neu gyfraith teulu - gan gynghori a chefnogi cleientiaid drwy’r system gyfreithiol.
- Gallu rheoli llwyth achosion prysur, gweithio dan bwysau a chwrdd â therfynau amser.
- Profiad o brosesau cymorth cyfreithiol, cyflawni targedau ariannol a gofynion cofnodi amser gan ddefnyddio systemau rheoli achosion.
- Sgiliau trefnu, blaenoriaethu a rheoli amser da.
- Profiad o waith amlasiantaethol a gweithio mewn tîm.
- Sgiliau gwrando, llafar ac ysgrifenedig rhagorol, gan gynnwys y gallu i gyfathrebu'n effeithiol â grŵp cleientiaid y sefydliad.
- Ymrwymiad i rannu dysgu, sgiliau a gwybodaeth.
- Ymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, a dealltwriaeth ohonynt, a sut maent yn berthnasol i gyngor cyfreithiol.
- Ymrwymiad cryf i weledigaeth, cenhadaeth a gwerthoedd Cyfraith Gymunedol y Gogledd.
- Sgiliau TG ardderchog.
Dymunol
- Profiad o ymarfer cyfraith tai yng Nghymru
- Profiad o ddarparu cyngor mewn rannau eraill o gyfraith lles cymdeithasol
- Profiad o ymgyfreitha sifil, gan gynrychioli cleientiaid yn y llys
- Dealltwriaeth gadarn o Reolau Ymddygiad Proffesiynol yr Awdurdod Rheoleiddio Cyfreithwyr (SRA), safonau’r SQM a Rheolau Cyfrifon y Cyfreithiwr, a’r gallu i’w cymhwyso yn ôl yr angen.
- Profiad o filio am gymorth cyfreithiol (gan gynnwys gwaith ardystiedig), a dealltwriaeth o optimeiddio incwm cymorth cyfreithiol.
- Gallu siarad ac ysgrifennu Cymraeg
I Wneud Cais
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 5pm ddydd Gwener 14 Tachwedd 2025.
Bydd y cyfweliadau cyntaf yn cael eu cynnal ar-lein, gyda chyfweliadau’r ail gam yn cael eu cynnal wyneb yn wyneb.
Anfonwch e-bost gyda theitl y swydd yn y llinell pwnc, ac atodi:
- CV cyfredol
- Llythyr eglurhaol yn disgrifio sut mae eich sgiliau, eich rhinweddau a'ch profiad yn bodloni'r gofynion a nodir yn y Disgrifiad o’r Swydd
- Ffurflen Monitro Cydraddoldeb wedi'i llenwi
Rydym yn gwerthfawrogi safbwyntiau amrywiol yn ein gwaith ac yn annog ymholiadau a cheisiadau gan bobl o bob cefndir, cymuned, hunaniaeth a phrofiad, gan gynnwys y rhai sydd â phrofiad uniongyrchol o’r anghydraddoldebau a’r anghyfiawnderau yr ydym yn ceisio mynd i’r afael â nhw. Os oes angen unrhyw addasiadau rhesymol arnoch fel rhan o’r broses recriwtio, rhowch wybod i ni drwy anfon e-bost.
Os ydych chi eisiau sgwrs anffurfiol am y swydd, anfoniwch e-bo.
Gan edrych ymlaen at glywed oddi wrthych.