Head of Policy & Campaigns (Wales)

Cardiff (Hybrid)
£52,973
Permanent
Job description
About the team

We have big goals over the next few years.

We're going to be fighting for mental health in a way we never have before.

Together we'll be working to make sure everyone experiencing a mental health problem gets the support and respect they deserve.



Ynglŷn â'r tîm

Mae gennym uchelgeisiau mawr ar gyfer y blynyddoedd nesaf.

Byddwn yn ymgyrchu dros iechyd meddwl mewn ffordd fwy uchelgeisiol nag erioed o'r blaen.

Gyda'n gilydd, byddwn yn gweithio i sicrhau bod pawb sy'n wynebu problem iechyd meddwl yn cael y gefnogaeth a'r parch y maent yn eu haeddu

Team information

Will you join us?

Mind Cymru's Policy and Campaigns Team works to improve mental health policy, services and public attitudes across Wales. We seek to influence changes to the mental health system in Wales by developing evidence-based policy, responding to consultations and advocacy. We use research and lived experience insight to shape recommendations and campaign priorities. The team also leads public campaigns, builds partnerships with other organisations and supports Mind's wider network to amplify key issues. Its goal is to create a Wales where everyone can access the mental health support, rights and opportunities they need.



Gwybodaeth am y tîm

Hoffech chi ymuno â ni?

Mae Tîm Polisi ac Ymgyrchoedd Mind Cymru yn gweithio i wella polisïau iechyd meddwl, gwasanaethau ac agweddau'r cyhoedd ledled Cymru. Rydym yn ceisio dylanwadu ar newidiadau i'r system iechyd meddwl yng Nghymru drwy ddatblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ymateb i ymgyngoriadau a chynnal gwaith eiriolaeth.

Rydym yn defnyddio ymchwil a mewnwelediadau o brofiad byw i lywio ein hargymhellion a'n blaenoriaethau ymgyrchu. Mae'r tîm hefyd yn arwain ymgyrchoedd cyhoeddus, yn meithrin partneriaethau â sefydliadau eraill ac yn cefnogi rhwydwaith ehangach Mind i godi ymwybyddiaeth o faterion allweddol. Ein nod yw creu Cymru lle gall pawb gael y gefnogaeth iechyd meddwl, yr hawliau a'r cyfleoedd sydd eu hangen arnynt.











Key duties and responsibilities

The post holder willl:

-Provide strategic leadership, planning and insight on Welsh policy, campaigns and senior stakeholder engagement to achieve Minds strategy in Wales, including providing advice and guidance to senior management and trustees, representing the organisation at the highest level on complex policy issues and engaging lived experience in the work of Mind Cymru

-Maintain an inclusive approach that reflect Mind's values and behaviours in how work is delivered and how team-level outcomes are measured. Ensure diverse voices and experiences are sought, engaged and reflected in Mind Cymru's policy and campaigning

-Develop relationships to enhance Mind Cymru's influencing in Wales providing a strong voice on behalf of the federation and our beneficiaries, including with elected politicians, Ministers, Welsh Government and UK Government officials, NHS Wales and other key decision makers

-Build and maintain constructive working relationships with colleagues across the organisation to ensure the needs of Welsh audiences are taken into account on policy and campaigning activity

-Represent Mind Cymru internally or externally, acting as a credible spokesperson and advocate for our work, including in the media and through speaking opportunities.

-Maintaining and applying knowledge across the policy and political environments in Wales and the UK



Prif ddyletswyddau a chyfrifoldebau

Bydd deiliad y swydd yn:

-Darparu arweinyddiaeth strategol, cynllunio a mewnwelediad ar bolisi Cymru, ymgyrchoedd ac ymgysylltu â rhanddeiliaid uwch er mwyn cyflawni strategaeth Mind yng Nghymru. Bydd hyn yn cynnwys darparu cyngor ac arweiniad i'r uwch dîm rheoli ac ymddiriedolwyr, cynrychioli'r sefydliad ar y lefel uchaf ar faterion polisi cymhleth, a sicrhau bod profiad byw yn rhan greiddiol o waith Mind Cymru.

-Cynnal dull cynhwysol sy'n adlewyrchu gwerthoedd ac ymddygiadau Mind yn y ffordd y caiff gwaith ei gyflawni ac wrth fesur canlyniadau ar lefel tîm. Sicrhau bod lleisiau a phrofiadau amrywiol yn cael eu cynnwys a'u hadlewyrchu ym mholisi ac ymgyrchoedd Mind Cymru.

-Datblygu perthnasoedd i gryfhau dylanwad Mind Cymru yng Nghymru, gan ddarparu llais cryf ar ran y ffederasiwn a'r bobl rydym yn eu cefnogi. Bydd hyn yn cynnwys gweithio gyda gwleidyddion etholedig, Gweinidogion, swyddogion Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, GIG Cymru a phenderfynwyr allweddol eraill.

-Adeiladu a chynnal perthnasoedd gwaith cadarnhaol gyda chydweithwyr ar draws y sefydliad er mwyn sicrhau bod anghenion cynulleidfaoedd Cymru yn cael eu hystyried wrth ddatblygu gweithgareddau polisi ac ymgyrchu.

-Cynrychioli Mind Cymru yn fewnol ac yn allanol, gan weithredu fel llefarydd ac eiriolwr hygred dros ein gwaith, gan gynnwys yn y cyfryngau a thrwy gyfleoedd siarad cyhoeddus.

-Cynnal a chymhwyso gwybodaeth am yr amgylcheddau polisi a gwleidyddol yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig.

Mind's equity statement

Mind is committed to equality of opportunity for all staff, and applications from individuals are encouraged regardless of age, disability, sex, gender reassignment, sexual orientation, pregnancy and maternity, race, religion or belief and marriage and civil partnerships.

Please refer to the Job Description while completing your application as candidates will be shortlisted based on how closely they match the criteria in the personal specification.

This role requires a Disclosure and Barring Service (DBS) check.

We retain the authority to close this vacancy prior to the advertised closing date and without prior notice, once an adequate number of applications has been received. Applications will be assessed on a continuous basis, and we respectfully advise prompt submission to ensure consideration.



Datganiad Cydraddoldeb Mind

Mae Mind wedi ymrwymo i sicrhau cyfle cyfartal i bob aelod o staff, ac rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion beth bynnag fo'u hoedran, anabledd, rhyw, ailbennu rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gred, neu statws priodasol a phartneriaeth sifil.

Cyfeiriwch at y Disgrifiad Swydd wrth gwblhau eich cais, gan y bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi ar y rhestr fer yn seiliedig ar ba mor agos y maent yn bodloni'r meini prawf a nodir yn y fanyleb person.

Mae'r swydd hon yn gofyn am wiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).

Rydym yn cadw'r hawl i gau'r swydd wag hon cyn y dyddiad cau a hysbysebwyd a heb rybudd ymlaen llaw, unwaith y bydd nifer ddigonol o geisiadau wedi'u derbyn. Caiff ceisiadau eu hasesu'n barhaus, ac rydym yn cynghori ymgeiswyr i gyflwyno eu cais cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y cânt eu hystyried.

Organisation
Mind [National Association for Mental Health] View profile Organisation type Registered Charity Company size 501 - 1000
Posted on: 10 August 2026
Closing date: 09 September 2026 at 00:00
Job ref: 0352
Tags: Social Care / Development