LGBTQ+ Youth Worker - Outreach
LGBTQ+ Youth Worker - Outreach
Reports to: LGBTQ+ Youth Work Lead
Hours: Full-time (37 hours per week)
Contract: Confirmed until end May 2027. We would welcome secondment applications for this post as well. Based on successful future fundraising this role could be extended
Salary: £32,475.00
Location: Multiple sites across 4 counties, with focus on rural and underserved areas
Unsociable hours: This role involves some unsociable hours of work, and requires flexibility to work evenings (up to 3 per week), occasional overnight and weekend shifts (e.g. during residential trips)
Travel: Own transport essential – travel expenses will be reimbursed
Language: Able to communicate in Welsh and English, both verbally and in writing (essential)
Closing Date for Applications: 10th August
Interview Dates: 18th & 20th August
Purpose of Role
The Outreach LGBTQ+ Youth Worker will extend access for LGBTQ+ youth provision into rural and underserved areas within North Wales. This role focuses on reaching LGBTQ+ young people in areas where services are limited, providing both group-based and one-to-one support, and ensuring bilingual Welsh/English provision. The post-holder will work collaboratively with the wider Viva LGBTQ+ team while having particular responsibility for outreach and Welsh language delivery.
Key Responsibilities
Rural Outreach and Development:
● Develop and extend LGBTQ+ youth provision in rural and underserved areas across 4 counties, in areas agreed with the Viva LGBTQ+ Team Lead
● Identify and engage with LGBTQ+ young people in underserved and rural communities
● Co-produce and deliver LGBTQ+ youth groups
● Build relationships with rural schools, community organisations, and partners to facilitate access to the youth work support and activities
Direct Youth Work Delivery:
● Deliver programmes and activities at multiple sites
● Provide one-to-one support and key-working for LGBTQ+ young people
● Support advocacy for LGBTQ+ young people
● Facilitate participation and co-production with young people
● Provide a role/possibility model for LGBTQ+ young people
Bilingual Provision:
● Ensure LGBTQ+ provision is accessible to young people in their preferred language
● Contribute to Welsh language communications and resources across the organisation
Quality and Accountability:
● Contribute to quality assurance and evaluation
● Support impact measurement and reporting
● Follow instructions for budgeting and financial record keeping
Professional Practice:
● Participate fully in reflective peer supervision
● Maintain safeguarding duties commensurate with role
● Attend and complete training and CPD as directed
Person Specification
Essential Qualifications:
● Level 3 Youth Work qualification or above (or working towards)
● Training in LGBTQ+ awareness and inclusion
Essential Experience:
● Experience of delivering youth work with diverse groups of young people
● Experience and understanding of issues which impact the lives of LGBTQ+ young people and communities
● Experience working in rural communities and/or understanding of rural issues
Essential Skills:
● Able to communicate confidently in Welsh and English, both verbally and in writing (essential requirement for this post)
● Excellent youth work skills including relationship building and group work
● Ability to work independently and take initiative
● Well adapted collaborative and team working skills
● Strong understanding of LGBTQ+ identities and inclusive practice
● Good communication and interpersonal skills
● Full UK driving licence and own transport (essential due to rural nature of role)
● Flexibility to work evenings (up to 3 per week), occasional overnight and weekend shifts (e.g. during residential trips)
Essential Personal Qualities:
● Expert through lived experience
● Commitment to equality, inclusion and anti-oppressive practise
● Self-motivated and able to work independently in rural locations
● Warm, approachable, and non-judgmental
● Culturally sensitive and respectful of Welsh language and culture
● Resilient and adaptable
● Commitment to youth work values and principles
Desirable:
● Experience of outreach youth work
● Experience working across multiple sites
● Knowledge of rural North Wales communities
● Understanding of barriers faced by LGBTQ+ young people in rural areas
Gweithiwr Ieuenctid LHDTC+ - Allgymorth
Yn Atebol i: Arweinydd Gwaith Ieuenctid LHDTC+
Oriau: Llawn amser (37 awr yr wythnos)
Cyflog: £32,475.00
Cytundeb: Wedi'i gadarnhau tan ddiwedd mis Mai 2027. Byddem hefyd yn croesawu ceisiadau am secondiad ar gyfer y swydd hon. Gellid ymestyn y rôl hon yn dibynnu ar lwyddiant codi arian yn y dyfodol.
Lleoliad: Safleoedd lluosog ar draws pedair sir, gyda ffocws ar ardaloedd gwledig a'r ardaloedd hynny sydd heb ddigon o wasanaethau
Oriau anghymdeithasol: Mae'r rôl hon yn cynnwys rhywfaint o waith yn ystod oriau anghymdeithasol, ac mae angen hyblygrwydd i weithio gyda'r nos (hyd at dair noson yr wythnos), ac yn achlysurol ar sifftiau dros nos ac ar benwythnosau (er enghraifft yn ystod teithiau preswyl)
Teithio: Mae mynediad at ddull trafnidiaeth personol yn hanfodol – telir costau teithio
Iaith: Y gallu i gyfathrebu yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig (hanfodol)
Dyddyiad terfynol am ceisiau: 10fed Mis Awst 2026
Dyddiadau cyfweld:18fed & 20ain Mis Awst 2026
Diben y Rôl
Bydd y Gweithiwr Ieuenctid LHDTC+ - Allgymorth yn ehangu mynediad at ddarpariaeth ieuenctid LHDTC+ mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd sydd heb ddigon o wasanaethau yng ngogledd Cymru. Mae'r rôl hon yn canolbwyntio ar gyrraedd pobl ifanc LHDTC+ mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau'n gyfyngedig, darparu cymorth mewn grwpiau ac ar sail un-i-un, a sicrhau darpariaeth ddwyieithog Gymraeg a Saesneg. Bydd deiliad y swydd yn gweithio ar y cyd â thîm ehangach Viva LHDTC+ tra'n ysgwyddo cyfrifoldeb penodol am waith allgymorth a darparu gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Prif Gyfrifoldebau
Allgymorth a Datblygu mewn Ardaloedd Gwledig
● Datblygu ac ehangu darpariaeth ieuenctid LHDTC+ mewn ardaloedd gwledig ac ardaloedd sydd heb ddigon o wasanaethau ar draws pedair sir, mewn ardaloedd a gytunir gyda'r Arweinydd Tîm Viva LHDTC+
● Adnabod ac ymgysylltu â phobl ifanc LHDTC+ mewn cymunedau gwledig ac ardaloedd sydd heb ddigon o wasanaethau
● Cydgynhyrchu a darparu grwpiau ieuenctid LHDTC+
● Meithrin perthnasoedd ag ysgolion gwledig, sefydliadau cymunedol a phartneriaid er mwyn hwyluso mynediad at gymorth a gweithgareddau gwaith ieuenctid
Darparu Gwaith Ieuenctid yn Uniongyrchol
● Cyflwyno rhaglenni a gweithgareddau ar draws safleoedd lluosog
● Darparu cymorth un-i-un a gwaith allweddol i bobl ifanc LHDTC+
● Cefnogi eiriolaeth ar ran pobl ifanc LHDTC+
● Hwyluso cyfranogiad a chydgynhyrchu gyda phobl ifanc
● Bod yn fodel rôl a phosibilrwydd i bobl ifanc LHDTC+
Darpariaeth Ddwyieithog
● Sicrhau bod darpariaeth LHDTC+ yn hygyrch i bobl ifanc yn eu iaith ddewisiol
● Cyfrannu at gyfathrebiadau ac adnoddau Cymraeg ar draws y sefydliad
Ansawdd ac Atebolrwydd
● Cyfrannu at sicrhau ansawdd a gwerthuso'r ddarpariaeth
● Cefnogi mesur ac adrodd ar effaith y gwasanaeth
● Dilyn cyfarwyddiadau ynghylch cyllidebu a chadw cofnodion ariannol
Ymarfer Proffesiynol
● Cymryd rhan lawn mewn goruchwyliaeth fyfyriol gan gymheiriaid
● Cyflawni dyletswyddau diogelu sy'n gymesur â'r rôl
● Mynychu a chwblhau hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus (DPP) yn unol â chyfarwyddyd y sefydliad
Manyleb y Person
Cymwysterau Hanfodol
● Cymhwyster Gwaith Ieuenctid Lefel Tri neu uwch (neu'n gweithio tuag ato)
● Hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth a chynhwysiant LHDTC+
Profiad Hanfodol
● Profiad o ddarparu gwaith ieuenctid gyda grwpiau amrywiol o bobl ifanc
● Profiad a dealltwriaeth o'r materion sy'n effeithio ar fywydau pobl ifanc a chymunedau LHDTC+
● Profiad o weithio mewn cymunedau gwledig a/neu ddealltwriaeth o faterion gwledi
Sgiliau Hanfodol
● Y gallu i gyfathrebu'n hyderus yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar lafar ac yn ysgrifenedig (gofyniad hanfodol ar gyfer y swydd hon)
● Sgiliau gwaith ieuenctid rhagorol, gan gynnwys meithrin perthnasoedd a gwaith grŵp
● Y gallu i weithio'n annibynnol a defnyddio menter
● Sgiliau cydweithio a gweithio mewn tîm datblygedig
● Dealltwriaeth gadarn o hunaniaethau LHDTC+ ac arferion cynhwysol
● Sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol da
● Trwydded yrru lawn y DU a mynediad at ddull trafnidiaeth personol (hanfodol oherwydd natur wledig y rôl)
● Hyblygrwydd i weithio gyda'r nos (hyd at dair noson yr wythnos), ac yn achlysurol ar sifftiau dros nos ac ar benwythnosau (er enghraifft yn ystod teithiau preswyl)
Rhinweddau Personol Hanfodol
● Arbenigedd sy'n deillio o brofiad bywyd
● Ymrwymiad i gydraddoldeb, cynhwysiant ac ymarfer gwrth-ormesol
● Hunangymhelliant a'r gallu i weithio'n annibynnol mewn lleoliadau gwledig
● Cynnes, hawdd mynd ato ac anfeirniadol
● Sensitifrwydd diwylliannol a pharch tuag at y Gymraeg a diwylliant Cymru
● Hydwyth a hyblyg
● Ymrwymiad i werthoedd ac egwyddorion gwaith ieuenctid
Dymunol
● Profiad o waith ieuenctid allgymorth
● Profiad o weithio ar draws safleoedd lluosog
● Gwybodaeth am gymunedau gwledig gogledd Cymru
● Dealltwriaeth o'r rhwystrau sy'n wynebu pobl ifanc LHDTC+ mewn ardaloedd gwledig
The YEW Collective improves the life-chances, experiences & wellbeing of young people and communities facing barriers, disadvantage & discrimination.